Fahadi yn ymuno â Common Wealth fel Cymrawd Bwrsariaethau Creadigol Weston Jerwood

Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ymuno â thîm Common Wealth / National Theatre Wales fel Cyfarwyddwr Cyswllt.

Mae fy holl waith cyn y rôl hon wedi ymwneud â rhoi cyfle i bobl ifanc, nad oes ganddynt lais mewn cymdeithas, rannu’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw. . Fel cyn gadeirydd Cyngor Ieuenctid Bydd y Caerdydd, roeddwn yn cynrychioli pobl ifanc yng Nghaerdydd gyda’r nod o sicrhau newid ystyrlon a phendant i’r unigolion mwyaf agored i niwed. Mae’r rhan fwyaf o’m gwaith dros y blynyddoedd wedi cynnwys gwella gwasanaethau iechyd meddwl a lles, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a digartrefedd gan ganolbwyntio ar ddiwygio dan arweiniad pobl ifanc.

Rwyf bob amser yn chwilio am ffyrdd diddorol ac unigryw o fynd i’r afael â heriau mawr heddiw. Gan fy mod yn dod o gefndir dosbarth gweithiol, rwy’n gallu uniaethu â’r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw, ac rwy’n gallu deall yr heriau y gallai pobl gyffredin eu hwynebu o ddydd i ddydd.

Mae fy mhortffolio yn cynnwys creu prosiectau celf mawr sy’n canolbwyntio ar bynciau fel cynaliadwyedd amgylcheddol a Mis Hanes Pobl Dduon. Rwy’n mwynhau creu celf i gynulleidfaoedd nad ydynt yn draddodiadol yn ymwneud â’r celfyddydau gyda’r nod o ddarganfod yr artist mewn pobl gyffredin.

Yn y rôl hon rwy’n bwriadu parhau â’m gwaith eiriolaeth drwy roi cyfle creadigol i unigolion fynegi eu hunain a rhannu’r hyn sy’n bwysig iddynt. Fy uchelgais yw agor y celfyddydau, a thrwy hwyluso mannau creadigol i bobl fynegi eu hunain, rwy’n gobeithio dod ag amrywiaeth i fyd y celfyddydau a’i ddefnyddio fel arf i sicrhau newid.

Rwy’n gobeithio dysgu, rhannu a thyfu yn ystod fy amser yn Common Wealth a National Theatre Wales ac rwy’n edrych ymlaen i ddechrau arni!

………………………………………………………………………………………………..
Mae’r rôl hon yn un o 50 o swyddi cyflogedig mewn sefydliadau celfyddydol a diwylliannol ledled y DU, gyda chefnogaeth rhaglen Bwrsariaethau Creadigol Weston Jerwood.