Us Here Now

Llun o set Us Here Now - 3 llun mawr yn dangos dyn yn sefyll wrth ddrws, menyw rhwng dau gar a bocsiwr benywaidd yn gwenu.

Mae Steph, un o aelodau Bwrdd Seinio Common Wealth, yn nodi’r hyn y mae Us Here Now yn ei olygu iddi hi a Dwyrain Caerdydd ac yn cyfweld Jude, a fu’n cymryd rhan yn y prosiect.

………………………………………………………………………………….

Canolfan siopa Tesco; a minnau wedi fy magu yn Llaneirwg, roedd Tesco yn rhan annatod o’r daith. Yn yr ysgol gynradd roedd yn symbol o annibyniaeth pan oeddwn yn cael cerdded yno ar fy mhen fy hun i brynu wyau i fy mam. Bryd hynny roeddwn yn gallu cerdded drwy’r caeau lle mae ystad Willowbrook Gardens erbyn hyn. Y rhes o siopau, mannau trin gwallt, siop fideo a’r Triple Crown, y feddygfa, Martins a Tesco.

Byddem yn sefyllian yno, yn reidio beics yno, yn cwrdd â ffrindiau yno. Dyma oedd canolbwynt ein byd.

Bryd hynny, dim ond wal oedd y wal sy’n rhan o’r prosiect “Us Here Now”. Dim byd yn tynnu sylw. Dim rheswm i stopio. Mae’n debyg bod hynny’n rhyw fath o drosiad i’n disgrifio ni yma yn Nwyrain Caerdydd. Dim byd yn tynnu sylw. Dim rheswm i stopio. Yno ond nid Yma.

Pan glywais am y prosiect roeddwn i’n meddwl ei fod yn syniad gwych, cyfleu pobl yn ystod cyfyngiadau symud yr haf. Creu rhywbeth creadigol ymhlith yr holl newyddion drwg. Ac yna cefais glywed y byddai’n cael ei arddangos yn Tesco, ANHYGOEL! O’r diwedd, byddai pobl yn stopio i edrych ar y wal. Byddai pobl yn sylwi arni. Byddai pobl yn ein gweld.

Ceisiais rannu camau’r prosiect ar y grŵp FB lleol wrth iddynt godi ar dudalen Common Wealth. Yr oedd yn aml yn lle i gwyno am broblemau, tân gwyllt, plant yn sefyllian. Roeddwn eisiau dangos yr hyn yr ydym y tu hwnt i hynny. Pa mor hardd yw Llaneirwg. Roedd yn wych gweld cymaint o gefnogaeth yn cael ei mynegi yn y negeseuon, pobl yn cael eu tagio, clapio trosiadol ac emoji clapio i’r bobl berthnasol. Roedd yn hyfryd gweld balchder y rheini oedd ynghlwm wrth y prosiect, balchder yn y gwaith, balchder yn y lleoliad, balchder ynom ni.

Rwyf wedi cael cyfle i siarad â Jude, un o’r bobl y mae ei llun wedi’i gynnwys yn y prosiect.

Steph: Sut wyt ti’n teimlo am y prosiect nawr ei fod wedi’i gwblhau?

Jude: Rwy’n teimlo i’r prosiect fod yn brofiad gwych yn ystod amser digalon Covid… Cyfarfod ar hap gyda Rhiannon o Common Wealth oedd yn gyfrifol am fy nghyfraniad i’r prosiect … dim ond fel llun yn wreiddiol.

Fe wnaeth y lluniau lliwgar ar wal lwyd, druenus Tesco Llaneirwg godi ysbryd yr ardal i gyd. Roedd pawb yn edrych ar y lluniau ar y wal ac yn gwenu wrth iddyn nhw gerdded heibio … yr union beth yr oedd ei angen ar y gymuned wrth iddi wynebu bywyd bob dydd mewn pandemig .

Pan ddaeth y ffilm allan, fe’i rhannais gan ei bod mor hardd a chalonogol, gan gyfleu eiliad mewn amser …. nid y darlun ohonom yn byw mewn twll o ardal yn llawn amddifadedd fel yr hyn sy’n cael ei gyfleu … ond cipolwg hardd ar bobl sy’n falch eu bod yn perthyn i le ac amgylchedd sy’n golygu cymaint mwy iddyn nhw … dydy’r ystadegau ddim yn adrodd yr holl stori … ydyn nhw?!

Steph: Pa fath o adborth wyt ti wedi’i gael gan ffrindiau a dieithriaid?

Jude: Mae pawb wedi dweud pa mor wych yw’r ffilm a sut mae’n cyfleu lle rydyn ni’n byw fel rhywle bywiog, llawn gofal. Mae fy nghyflogwyr newydd wedi gweld y ffilm ac rwy’n credu bod hynny wedi fy helpu i gael y rôl … gan eu bod wedi bod yn sôn wrth lawer o bobl am y ffilm.

Steph: Sut wyt ti wedi teimlo am y prosiect o ran y cyfryngau cymdeithasol?

Jude: Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol .. a gan fy mod wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn rwyf wedi cwrdd â phobl anhygoel sy’n teimlo’n angerddol am y gymuned … CF3 Llanrhymni Trowbridge Llaneirwg. Creu theatr a chyfleoedd ystyrlon i bobl leol.

Mae’n amser anhygoel i fod yn CF3 nawr … mae ysbryd adfywio yn yr aer… a chyfle i wneud iawn am y gwaith o gael gwared ar y mannau a’r amgylcheddau cymunedol sydd wedi digwydd dros y 30 mlynedd diwethaf. Dydw i methu aros i weld beth fydd Common Wealth yn ei wneud nesaf.

******

Roeddwn eisiau trafod brawddeg olaf ond un ateb diwethaf Jude. Mae wir yn teimlo fel bod “rhywbeth ar y gweill”, fel petaem ar fin cyflawni rhywbeth. Gallwch ei alw’n adfywio, gallwch ei alw’n ddod o hyd i’n lleisiau, gallwch ddweud ein bod wedi cael llond bol ar bobl yn anghofio amdanom a’r hyn y gallwn ei gyflawni.

Mae gennym bŵer.

Pŵer i newid ein hamgylchedd, newid safbwyntiau pobl amdanom, rhoi’r cyfleoedd y mae ein cymuned yn eu haeddu. Dyma Us Here Now a ni fydd Dwyrain Caerdydd am byth. Dyma Us Here Now a ni fydd Dwyrain Caerdydd am byth.