Cwrdd â’n Bwrdd Seinio

A montage of 7 portrait photos

Mae Common Wealth yn angerddol am ein cartref yn Nwyrain Caerdydd ac rydyn ni’n gwybod gwerth cyd-greu: gall ysbrydoli ac arwain at newid cymdeithasol. Mae ein Bwrdd Seinio yn ein helpu i wneud gwaith creadigol gyda phobl Dwyrain Caerdydd, ar gyfer pobl Dwyrain Caerdydd.

Mae gan y Bwrdd Seinio 7 aelod sy’n byw’n lleol. Gyda phrofiad go iawn o’r ardal, maen nhw’n ei hadnabod ac yn ei deall. Maen nhw’n cael eu gwerthfawrogi gan eu cymuned, ac eisiau arwain newid a chreu cyfle yma. Mae pob aelod yn dod â’i bersbectif a’i syniadau ei hun am yr hyn sydd ei angen ar Ddwyrain Caerdydd.

Ac maen nhw’n griw anhygoel! Yn llawn uchelgais ar gyfer cymuned well sy’n seiliedig ar sylfaen cyfleoedd, rydyn ni’n lwcus o gael manteisio ar eu gwybodaeth a’u mewnbwn, gan arwain syniadau a dod â nhw at ei gilydd. Maen nhw’n ein hannog i’w gweld nhw, eu plant, eu hanghenion a’u cymuned o’u safbwynt nhw. Maen nhw’n grŵp bach ond yn grŵp dewr, yn llawn syniadau gwych ac yn ein harwain i’r flwyddyn nesaf mewn ffordd ddidwyll a chefnogol y byddai unrhyw sefydliad sy’n ceisio bod yn berthnasol yn falch ohono.

Mae’r Bwrdd Seinio yn cael 6 cyfarfod bob blwyddyn. Mae’n llywio ac yn ysbrydoli Common Wealth, a gyda’n gilydd rydyn ni’n gwneud gwaith creadigol ac yn sicrhau newid. Cânt eu had-dalu am eu hamser, gallant gael mynediad i weithdai artistig ychwanegol a hyfforddiant wedi’i deilwra. Rydyn ni hefyd yma i’w cynghori ar brosiectau yr hoffent ddechrau arnynt yn annibynnol.

Ffurfiodd y bwrdd fel rhan o Moving Roots, rhaglen 3 blynedd ledled y DU sy’n canolbwyntio ar deithio, cyd-greu, Drwy Moving Roots, bydd Common Wealth yn dod â 3 phrosiect wedi’u cyd-greu i Ddwyrain Caerdydd rhwng nawr a 2023, gan ddechrau gyda Rent Party: sioe ffyrnig a dewr, gydag elfennau sioe gerdd fodern, elfennau theatr, ac mae un peth yn sicr, mae’n barti!

Cyfleoedd i gymryd rhan
Bydd y Bwrdd Seinio yn esblygu dros amser, a byddwn yn hysbysebu cyfleoedd wrth iddynt godi ar ein gwefan, Facebook ac yn lleol.

Felly, Croeso enfawr i’n Bwrdd Seinio ar gyfer 2021.
Dewch i gwrdd â nhw.

Steph.

Stephanie Rees

Cefais fy magu yn Llaneirwg, a oedd yn llawer llai bryd hynny. Roeddwn yn teimlo’n ddiogel yno, roedd pawb yn fy adnabod. Nid oedd gennym incwm gwario fel teulu. Mae fy rhieni’n weithwyr caled ac roedd gennym do uwch ein pennau a bwyd yn ein boliau. Roeddwn i’n lwcus i gael ysgoloriaeth i fynd i Stagecoach ac fe wnaeth fy Nain helpu er mwyn i mi gael gwersi cerddoriaeth.

Euthum i Goleg Celfyddydau Dartington yn 18 oed. Yno dysgais fod Theatr yn fwy na fi ar lwyfan, roedd ganddi’r pŵer i newid pobl, lleoedd a phethau. Roeddwn wrth fy modd yno ac fe wnaeth ysbrydoli fy mreuddwyd i agor Ysgol Ddrama ymhen hir a hwyr y gallai unrhyw un ei defnyddio, lle nad oedd faint o arian oedd gennych yn bwysig a chyflwyno sioeau sy’n dod â chymunedau at ei gilydd.

Fe wnes i astudio TAR mewn Drama uwchradd a chyfres o weithdai llawrydd ar ddyheadau mewn trefi arfordirol. Dwi wedi bod yn Bennaeth Drama mewn ysgol ym Mryste ers bron i ddegawd. Rwyf wrth fy modd yn gweld grym Drama ym mywydau pobl ifanc, yn enwedig cynyrchiadau’r ysgol lle mae myfyrwyr yn mynd ar y daith enfawr hon o ddarganfod eu hunain. Am flynyddoedd lawer bu fy nosbarthiadau blwyddyn 13 yn creu gwaith penodol i leoliad ym Mryste gan ddefnyddio safle fel ysgogiad, ac roedd y gwaith a gynhyrchwyd ganddynt yn anhygoel.

Rwy’n fam i 2 ac yn llys-fam i 1. Rydyn ni wedi symud yn ôl i Laneirwg ers 18 mis. Rwyf ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd ac mae’r cyfle i gydweithio â Common Wealth a’r Bwrdd Seinio mor gyffrous. Mae Llaneirwg a Dwyrain Caerdydd yn llawn pobl anhygoel, dalentog, hael, uchelgeisiol a dawnus o bob man. Rydyn ni’n haeddu cael pobl i glywed ein lleisiau a gweld ein hwynebau.

Callum

Callum Bingham

Helo, fy enw i yw Callum, ac rwy’n aelod o Fwrdd Seinio Common Wealth. Rwyf hefyd yn weithiwr ieuenctid yng Nghlwb Ieuenctid Llaneirwg sy’n cynnig clwb ieuenctid mynediad agored i bobl ifanc 11-19 oed. Rwy’n byw yn Trowbridge, ac rwyf wedi byw yn Nwyrain Caerdydd ar hyd fy oes. Fy nod yw cynnig cymaint o gyfleoedd â phosibl i bobl ifanc yng Nghaerdydd. Wrth fy ngwaith yn y clwb ieuenctid mae cymaint o deuluoedd a phobl ifanc yn nodi nad oes unman i bobl ifanc fynd yn yr ardal os ydynt yn mwynhau drama. Bydd hyn yn un o’m hamcanion ar y bwrdd seinio.

Charlie

Charlie Fisher

Helo! Helo! Fy enw i yw Charlie, rwy’n 23 oed ac mae gen i ddiddordeb brwd mewn celf Graddiais o Brifysgol Celfyddydau Bournemouth yn 2020 gyda gradd 2:1 mewn Colur ar gyfer y Cyfryngau a Pherfformio. Mae’r celfyddydau wedi cael effaith sylweddol ar fy mywyd ac mae’r creadigrwydd sy’n gysylltiedig â nhw yn parhau i’m hysbrydoli. Rwyf wrth fy modd gyda natur, coed, a’r holl egni maen nhw’n ei gynnig.

Does dim digon o bobl yn gwerthfawrogi cofleidio coeden neu eistedd yng nghanol byd natur! Rwy’n credu bod byw yn y presennol yn hollbwysig felly rwy’n ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar mewn sawl ffordd, fel myfyrio a chadw dyddlyfr. Mae pobl yn ysbrydoliaeth fawr i mi,, rwyf wrth fy modd yn cwrdd â phobl newydd a gweld eu gwahanol safbwyntiau ar fywyd. Mae Common Wealth wedi rhoi cyfle i mi gydweithio â’r ddau beth pwysicaf i mi drwy roi lle i mi ar y bwrdd seinio hwn.

Rwy’n hynod ddiolchgar ac yn edrych ymlaen at y daith y bydd y rôl hon yn fy arwain arni a’r nifer fawr o bobl eraill o’m cwmpas. Mae’r symudiad y mae Moving Roots yn ei ddechrau mor rymus ac mae’n anodd credu fy mod yn rhan ohono. Felly, os ydych chi eisiau cerdded ym myd natur, sgwrsio am eich diwrnod, neu gael diwrnod o beintio, rwy’n fwy na pharod i rannu fy syniadau positif drwy gelf a myfyrio â chynifer o bobl â phosibl. Gallwn newid y byd fesul un cyfarfod hapus ar y tro.

Lisa

Lisa Bradford

Fy enw i yw Lisa, rwy’n fam i 2 ferch wych, egnïol. Rwy’n mwynhau bod yn rhan weithgar o’r gymuned, yn wirfoddolwr yn y ganolfan gymunedol leol a’r Homestart lleol, yn rhan o Fwrdd Seinio Common Wealth ac yn fam bêl-droed angerddol. Rwy’n gwerthfawrogi’r gymuned o’m cwmpas ar ôl symud yma o dros y ffin. Rwyf wedi cael croeso cynnes ac mae pawb bob amser wedi bod yn hynod gyfeillgar.

Rwy’n awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’r ardal a gallu cynnig cyfleoedd i’m merched a minnau ddatblygu sgiliau a chryfhau cyfeillgarwch.

David

David Melkevik

Ers iddo gwrdd â dynes hyfryd o Bort Talbot yn y Brifysgol, mae David Melkevik, a aned yn Grimsby, wedi bod yn byw yn Llaneirwg ac, erbyn hyn, Llanrhymni ers dros 13 mlynedd. Ac yntau’n ddadansoddwr busnes sy’n gweithio mewn prifysgol leol, mae David yn mwynhau sgriptio yn ei amser hamdden ac mae ei waith wedi’i berfformio ar Radio BBC a BBC Cymru.

Y tu allan i’r gwaith mae David yn mwynhau bocsio (yn wael) ac mae wrth ei fodd yn gwylio ei feibion yn chwarae pêl-droed i Glwb Pêl-droed Llanrhymni. Llan am byth! Llan am byth!
Mae David wrth ei fodd o gael bod yn rhan o Common Wealth gan ei fod yn gyfle i ddod â’r gymuned at ei gilydd drwy theatr a sefydlu gwaddol gwirioneddol a fydd o fudd i bobl ifanc yr ardal.

Jude
Jude Thoburn-Price

Producer, Performer, Sound Engineer and Storyteller, combining spoken word woven into electronic landscapes and visual art as Cult of Doris Encompassing the Physics of Hope from the overflowing Pandoras Box of Life.

Rwyf wedi bod yn ymwneud â pherfformio, celf weledol a sain ar hyd fy oes.

Yn yr hen ddyddiau, dechreuais fy nhaith greadigol yn yr ysgol iau, gan greu a chyfarwyddo dramâu ar gyfer yr ysgol gyfan ar brynhawniau Gwener, rhwng mynd i siopa i’r athrawon, gwneud te a chanu’r gloch Wedi’r cyfan, dyma’r 70au ac fel merch cafodd fy nyfodol ei fapio fel un yn llawn magu plant a phriodas.

Drwy gydol fy mywyd, rwyf wedi bod yn ymwneud â theatr, teledu a ffilm, digwyddiadau, cerddoriaeth, gair llafar, datblygu cymunedol, cyllid a rheoli prosiectau, sain (byw a chynhyrchu), cwnsela ac addysgu

Yn cydweithio â’r canlynol ar hyn o bryd:
Aelod o Fwrdd Seinio Common Wealth
Aelod o Rwydwaith Cynhyrchwyr Electronig Caerdydd, digwyddiadau electronig a sain yn Ne Cymru
Aelod o Ladies of Rage Caerdydd, yn hyrwyddo Womxn mewn genres cerddoriaeth wedi’i thangynrychioli

Maxine

Maxine Mccaffrey

Fy enw i yw Maxine, rwy’n 30 oed ac mae gennyf ferch 10 oed ac rwyf wedi byw yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd y rhan fwyaf o’m bywyd.

Pan oeddwn i’n iau, byddai fy ffrindiau a minnau yn defnyddio’r ganolfan ieuenctid a’r ganolfan gymunedol leol yn rheolaidd gan ddefnyddio’r gwahanol wasanaethau a’r gweithgareddau oedd ar gael. Byddwn i’n bersonol yn mynd i gynifer o ddosbarthiadau dawns â phosibl – o ddawnsio stryd i hip hop a dawnsio tap i fale, roedd bob amser rhywbeth i mi gymryd rhan ynddo.

Mae gen i lawer o atgofion melys o gael fy magu yn Llaneirwg, ond rwyf wedi gweld dros y blynyddoedd sut mae parciau wedi diflannu, canolfannau ieuenctid yn cael eu bwrw i lawr, gwasanaethau dan bwysau sy’n golygu bod ein plant yn wynebu llawer o anfanteision felly mae gallu ymwneud â theatr Common Wealth yn rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol iawn amdano.