
Podlediad Common/Wealth – Rent Party
Rydym wedi creu cyfres o bodlediadau i archwilio popeth sy’n ymwneud â Common/Wealth, gan sgwrsio â’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw, y bobl sy’n ein hysbrydoli i greu sioeau a’r rhai sy’n rhoi tân yn ein boliau i weithredu ein cenhadaeth ar gyfer newid. Daw Cyfres 1 o’n sioe Rent Party, sioe 5 seren boblogaidd y mae Darren Pritchard wedi’i hailddychmygu, sy’n eich gwahodd chi, y gynulleidfa, i dalu i ddod i barti, fel y gall y cast dalu rhent y mis hwn.
Daw’r podlediadau Rent Party atoch o fwrdd y gegin, ar ôl y parti gyda’r cast a’r cyfarwyddwyr hynod dalentog. Dan arweiniad Chantal Williams (Cynhyrchydd Cymunedol Common/Wealth), maent yn sôn am gyd-greu, pwy sy’n eu hysbrydoli, eu hil a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn artist dosbarth gweithiol – gan ddatgelu themâu pwysig Rent Party.
Ym Mhennod 1 mae’r cast yn cyflwyno eu hunain, beth sy’n eu hysbrydoli, a’r sioe.
Mae Pennod 2 yn archwilio hil a magwraeth yng Nghymru a Manceinion.
Ym Mhennod 3 mae’r cast yn dathlu eu mamau, y gefnogaeth sydd ganddynt o’u cwmpas, yn trafod lles ac yn rhannu cyngor ar fwrw ymlaen yn y celfyddydau.
Credydau’r podlediad
Cast Rent Party:
Yasmine Goulden
Emilie Parry-Williams
Jude Thoburn-Price
Darnell Williams
Cyfarwyddwr Rent Party: Darren Pritchard
Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Compere Rent Party: Stuart Bowden
Llywiwr y Podlediad: Chantal Williams (Common/Wealth)
Cynhyrchwyr y Podlediad: Chantal Williams (Common/Wealth) and Camilla Brueton (Common/Wealth)
Golygydd y Podlediad: Euan MacAleece
Mae’n deillio o’r sioe wreiddiol, Rent Party, sydd wedi’i hysgrifennu ar y cyd gan Cheryl Martin a Darren Pritchard, ac wedi’i chynhyrchu gan Jayne Compton a’r dramodydd Sonia Hughes, ei chomisiynu gan Homotopia, a’i chefnogi drwy Javaad Alipoor fel rhan o’i gyfnod gyda Changemaker yn Sheffield Crucible.
Gwrando ar: Podlediad Common/Wealth: Rent Party Pennod 1 (29 muns)
Gwrando ar: Podlediad Common/Wealth: Rent Party Pennod 2 (32 munudau)
Gwrando ar: Podlediad Common/Wealth: Rent Party Pennod 3 (40 munudau)