Us Here Now
Mae Steph, un o aelodau Bwrdd Seinio Common/Wealth, yn nodi’r hyn y mae Us Here Now yn ei olygu iddi hi a Dwyrain Caerdydd ac […]
Darllen mwyARDDANGOSFA YN ORIEL Y DYFODOL, ADEILAD PIERHEAD, BAE CAERDYDD
13 GORFFENNAF – 24 MEDI 2022
Mae Us Here Now yn ddathliad o bobl Dwyrain Caerdydd; eu straeon a’u grym. Mae’n daith i’r hyn y mae’n ei olygu i gael eich gweld a’ch clywed; mae’n herio’r naratifau negyddol sydd o’n cwmpas yn aml.
Mae’n daith i’r hyn y mae’n ei olygu i gael eich gweld a’ch clywed. Ar ddiwedd haf 2020, ar ôl y cyfyngiadau symud cyntaf, bu’r artist Jon Pountney a Common/Wealth yn gweithio gyda’r bobl sy’n byw, yn gweithio neu’n dod o Laneirwg, Llanrhymni a Trowbridge i gyfleu ciplun o fywyd yn yr heulwen; us, here, now.
Am 6 mis, arddangoswyd 12 o ffotograffau mwy na maint go iawn yn y gofod dinesig ger Tesco Llaneirwg. Rhoddodd yr arddangosfa wên ar wynebau llawer o bobl, gan godi eu calonnau ar adeg pan nad oedd pobl yn cael cwrdd oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo. Cawsom ein hatgoffa nad ydym ar ein pen ein hunain.
O Roddy Moreno o’r band pync gwrth-ffasgaidd The Oppressed i Nicola sy’n bocsio a chanddi uchelgais o ysgrifennu llyfrau plant, i Selvin, sy’n gweithio yn Tesco, i Jude sy’n aelod o glwb garddio Llaneirwg a llawer mwy o unigolion ysbrydoledig.
Rydyn ni wedi dysgu sut y dylanwadodd newyddiadurwyr y 1970au ar ganfyddiadau o’r ardal, pan wnaethant dalu i blant fandaleiddio bloc o fflatiau ar gyfer sesiwn tynnu lluniau a sut y gwnaeth cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru sarhau cenhedlaeth drwy feirniadu mamau sengl a dyfodol eu plant. Rydym wedi dysgu bod ein cymuned yn gyfoethog tu hwnt, mae pob un rydyn ni wedi’i gyfarfod wedi herio’r straeon a ddywedwyd gan newyddiadurwyr a gwleidyddion.
Ym mis Gorffennaf – Medi, mae Us Here Now yn dod i Oriel y Dyfodol yn y Pierhead, gan ddod â Dwyrain Caerdydd i ganol y ddinas ac i galon grym yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy am y nifer fawr o bobl a gymerodd ran mewn ffilm ddogfen fer ac yn y prosiect zine,
Darllenwch y straeon y tu ôl i Us Here Now a chwrdd â rhai o'r bobl a gymerodd ran. (8.20 munud)