Gweithiwr Tesco gwrywaidd yn chwerthin y tu allan i'r siop

Us Here Now

mwy

Us Here Now

Mae Us Here Now yn ddathliad o bobl Dwyrain Caerdydd; eu straeon a’u grym. Mae’n daith i’r hyn y mae’n ei olygu i gael eich gweld a’ch clywed; mae’n herio’r naratifau negyddol sydd o’n cwmpas yn aml.

Ar ddiwedd yr haf yn 2020, ar ôl y cyfyngiadau symud, bu Common Wealth yn gweithio gyda’r artist Jon Pountney a phobl sy’n byw, yn gweithio neu’n dod o Laneirwg, Llanrhymni a Trowbridge i gyfleu ciplun o fywyd yn yr heulwen; ni, yma, nawr.

O Roddy Moreno o’r band pync gwrth-ffasgaidd The Oppressed i Nicola sy’n bocsio a chanddi uchelgais o ysgrifennu llyfrau plant, i Selvin, sy’n gweithio yn Tesco, i Jude sy’n aelod o glwb garddio Llaneirwg a llawer mwy o unigolion ysbrydoledig.

Rydyn ni wedi dysgu sut y dylanwadodd newyddiadurwyr y 1970au ar ganfyddiadau o’r ardal, pan wnaethant dalu i blant fandaleiddio bloc o fflatiau ar gyfer sesiwn tynnu lluniau a sut y gwnaeth cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru sarhau cenhedlaeth drwy feirniadu mamau sengl a dyfodol eu plant. Rydym wedi dysgu bod ein cymuned yn gyfoethog tu hwnt, mae pob un rydyn ni wedi’i gyfarfod wedi herio’r straeon a ddywedwyd gan newyddiadurwyr a gwleidyddion.

Roedd y lluniau’n cael eu harddangos mewn arddangosfa awyr agored yn y ganolfan ddinesig ger Tesco Llaneirwg rhwng mis Tachwedd 2020 – Ebrill 2021.

Arddangosfa o bortreadau ffotograffig mawr yn yr awyr agored, ar wal lwyd.

Caiff Us Here Now ei ariannu gan#DeptofDreams, Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Paul Hamlyn.

Gwylio’r ffilm


Darllenwch y straeon y tu ôl i Us Here Now a chwrdd â rhai o’r bobl a gymerodd ran. (8.20 munud)

Llwytho’r cylchgrawn i lawr

Y clawr blaen. Gweithiwr Tesco gwrywaidd yn chwerthin y tu allan i'r siop. Menyw yn cofleidio ei mab ifanc yn ei breichiau.

Llun o’r holl bobl a gymerodd ran yn Us Here Now. Cliciwch y llun i lwytho’r cylchgrawn i lawr (ffeil pdf, 6MB)

Gweld ble roedd y sioe

(0.47 eiliad)

Diolch yn fawr!

Hoffai Common Wealth ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o Us Here Now gan gynnwys:

Clwb Bocsio Phoenix Llanrhymni, Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni, Gardd Gymunedol Llaneirwg, Clwb Garddio Neuadd Llanrhymni, Canolfan Ieuenctid Llaneirwg, Tesco Llaneirwg, Hot Soup House a Redbrck.

a’r holl bobl anhygoel hyn – rydych chi’n gwybod pwy ydych chi!

Beverly, Gemma, Claire, Herman, Alison, Abbie, Lauren, Olivia, Tadiwarashe, Taymah, A Lewis, Sinead, Sophie, Harrison, Carly, Lee- Jay, Helen, Carl, Sian, Reg, Evelyn, Glenys, Hannah, Ava, Grace, Becky, Chloe, Rebecca, Andrew, Sarah, Selvin, Catherine, Serena, Joely, Wayne, Leigh, Stephen, Jake, Jakie, Ryan, Andrea, Fariah, Leia, Chris, Tonisha, Lucien, Luca, Gareth, Sienna, Jude, Jean, Sue, June, Diane, Sana, Edward, Nicola, Shirley, Dan, Roddy, Ocean, Becky, Alisha, Dan S, Dan C, Harry, Lloyd, Mike a Luke.