Yng Nghaerdydd mae gennym swyddfa yn Neuadd Llanrhymni, sy’n ein galluogi i ganolbwyntio ar wneud i bethau ddigwydd yn Nwyrain Caerdydd a thu hwnt.
Ein cenhadaeth yng Nghaerdydd yw archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i weithio mewn cymdogaeth er mwyn ail-ddychmygu rôl theatr a gweithredu – beth mae’n ei olygu i fod yn artistiaid preswyl yn llythrennol ar garreg y drws? Sut ydyn ni’n sefydlu mudiad?
Rydyn ni’n gweithio gyda’n Seinfwrdd, sy’n cyfarfod bob yn ail mis i drafod, cynllunio, datblygu a lansio cynlluniau artistig yn lleol. Maen nhw’n bobl sy’n awyddus iawn i newid pethau ac sy’n poeni’n fawr am sicrhau cynnig artistig i bobl dosbarth gweithiol.
Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau, gweithdai, sioeau a rhaglen ieuenctid ar raddfa fawr.
Mae The Posh Club ar gyfer pobl dros 60 oed ar y cyd â Duckie yng Nghaerdydd, ac mae’n cynnwys digwyddiad bwtîc bach bob chwarter ac yna cabaret llawn Posh Club.
Mae Pawb yn Artist – cyfres o weithdai blynyddol am ddim dan arweiniad artistiaid, sy’n agored i bawb, waeth beth yw lefel eu profiad.
Gyda Take Your Place, ein Rhaglen Celfyddydau a Gweithredu ar gyfer pobl ifanc dosbarth gweithiol 14-18 oed, rydyn ni’n datblygu sgiliau, yn meddwl ac yn siarad am bŵer, a gweithio ar ymgyrch gyda’n gilydd.
Clwb Llyfrau Cymraeg – clwb llyfrau Cymraeg wythnosol lle rydyn ni’n ymarfer darllen a mwynhau’r Gymraeg heb farnu.